Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Communities, Equality and Local Government Committee
|
|
||
|
|
|
|
|
Bae Caerdydd / Cardiff Bay Caerdydd / Cardiff CF99 1NA
29 Medi 2011 |
Annwyl Gydweithiwr
Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen er mwyn cynnal ymchwiliad i’r rhagolygon ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru yn y dyfodol.
Dyma’r cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad:
“Edrych ar y rhagolygon ar gyfer llwyfannau amrywiol y cyfryngau yng Nghymru yn y dyfodol drwy ymchwilio i:
¡ Gyflwr presennol y cyfryngau yng Nghymru a sut mae technoleg newydd a datblygiadau eraill yn effeithio ar hyn, yng nghyd-destun pryderon parhaus ynghylch dyfodol y cyfryngau darlledu a phrint yng Nghymru;
¡ Beth ddylai’r blaenoriaethau fod o safbwynt Cymru wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno cynigion ar gyfer ei Bil Cyfathrebu;
¡ Y cyfleoedd i adeiladu modelau busnes y cyfryngau newydd yng Nghymru; a
¡ Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i roi argymhellion adroddiad Hargreaves ar waith a pha gamau eraill y gellid eu cymryd i gryfhau’r cyfryngau yng Nghymru o ran cynnwys a lluosogrwydd y ddarpariaeth.”
Byddai’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn croesawu’ch barn ar rai neu’r cyfan o’r pwyntiau uchod i’w helpu gyda’i ymchwiliad.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o swyddogaeth eich sefydliad.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd yn ystyried ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at